Cwynodd Mrs A fod y Practis wedi methu â nodi difrifoldeb symptomau ei gŵr na’i atgyfeirio i’r ysbyty, pan ymwelodd â’r Practis ar 4 achlysur gwahanol dros gyfnod o 16 diwrnod. Bu’n rhaid torri coes Mr A i ffwrdd 8 diwrnod ar ôl iddo gael ei weld am y tro diwethaf yn y Practis.
Canfu’r ymchwiliad fod gofal a thriniaeth Mr A dros y cyfnod o 16 diwrnod yn briodol. O’r wybodaeth sydd ar gael, newidiodd symptomau ac arwyddion Mr A ar ôl iddo gael ei weld am y tro diwethaf yn y Practis, ac roedd angen sylw meddygol brys arno. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn.