Cwynodd Ms A am yr amgylchiadau a arweiniodd at farw-enedigaeth ei merch, B, tra oedd hi o dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”).
Er bod y Bwrdd Iechyd wedi cydnabod methiannau mewn gofal, wedi nodi bod y rhain wedi achosi niwed, ac wedi derbyn bod hyn yn gyfystyr ag atebolrwydd cymwys, roedd yr Ombwdsmon yn cydnabod bod gan Ms A bryderon heb eu datrys.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms A o fewn 1 mis am yr amser a gymerwyd i gwblhau’r broses gwyno / gwneud iawn, ymddiheuro am beidio â darparu ateb i’w phryderon am gyfradd cyflymder calon B, ac ymddiheuro am unrhyw anghysondebau rhwng yr adolygiad ysbyty cychwynnol yn 2022 a’r ymateb terfynol yn 2024. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i ddarparu esboniadau i’r pryderon perthnasol a oedd heb eu datrys.