Cwynodd Ms A am anghysondebau rhwng cofnodion meddygol ei mab, Mr A, a’r adroddiad ar yr ymchwiliad a ysgrifennwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”).
Roedd yr Ombwdsmon yn cydnabod bod rhai anghysondebau yn bodoli.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro am unrhyw anghysondebau o fewn 1 mis, ac i ychwanegu nodyn at y cofnodion i adlewyrchu safbwynt Ms A o ran y materion perthnasol.