Cwynodd Ms A a Mr B fod Cymdeithas Tai Newydd (“y GD”) wedi methu â fetio tenantiaid newydd. Roeddent yn cwyno bod tenantiaid yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol ac yn parhau i ymddwyn yn wrthgymdeithasol, gan achosi gofid iddynt. Roedd y GD hefyd wedi gwrthod cymryd unrhyw gyfrifoldeb, wedi bod yn anghwrtais ac wedi eu cyfeirio at yr heddlu, a wnaeth eu cyfeirio nhw’n ôl at y GD.
Ystyriwyd bod yr agwedd gyntaf ar y gŵyn yn gynamserol, nid oedd yr Achwynwyr wedi cwyno’n uniongyrchol wrth y GD am y mater o fetio darpar denantiaid. Fodd bynnag, roedd yn amlwg o’r dystiolaeth a ystyriwyd fel rhan o’r asesiad bod y GD wedi methu â dilyn ei Pholisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (“Polisi YG”) mewnol. Nid oedd unrhyw dystiolaeth o’r wybodaeth a adolygwyd yn ystod yr asesiad fod y GD yn anghwrtais tuag at yr Achwynwyr. Gofynnwyd i’r GD adolygu ei chydymffurfiaeth â’r Polisi YG. Fe wnaeth amlinellu ei fethiannau’n dryloyw, a sut roedd yn bwriadu sicrhau na fyddai’r hepgoriadau yn digwydd yn y dyfodol.
Cytunodd y GD i gwblhau’r camau canlynol er mwyn setlo’r gŵyn:
O fewn mis:
• Bydd yn darparu ymddiheuriad ysgrifenedig ystyrlon i’r Achwynwyr am y camweinyddu a nodwyd wrth ymdrin â’u cwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol.
• Bydd yn darparu swm gwneud iawn ariannol o £250 i’r Achwynwyr am yr amser a’r drafferth o fynd ar drywydd y gŵyn hon gyda’r Ombwdsmon.
O fewn 4 mis:
• Bydd yn adolygu ei raglen hyfforddi i sicrhau bod yr holl staff rheoli tai yn gwbl ymwybodol o’i Bolisi a’i weithdrefnau YG, a phwysigrwydd ymatebion amserol a phriodol. Bydd y sesiynau hyfforddi hyn yn cael eu darparu i bob aelod o’r staff rheoli tai.
• Bydd yn sefydlu system fonitro fewnol gadarn i sicrhau bod yr holl gwynion a dderbynnir yn cael eu categoreiddio, eu monitro a’u hadolygu’n gywir. Bydd hyn yn sicrhau bod y polisïau a / neu’r gweithdrefnau cywir yn cael eu rhoi ar waith.
• Bydd yn gwella ei system rheoli achosion mewnol er mwyn sicrhau nad yw camau o fewn y Polisi YG yn cael eu methu a bod modd dangos tystiolaeth o gydymffurfiaeth.