Dyddiad yr Adroddiad

04/11/2024

Achos yn Erbyn

Tai Cymoedd i'r Arfordir

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202403917

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A ei bod wedi rhoi gwybod am atgyweiriadau i Gymdeithas Dai y Cymoedd i’r Arfordir, ond na chawsant eu cwblhau. Dywedodd ei bod wedi gofyn am ddiweddariadau, ond ni wnaeth y Gymdeithas Dai ymateb. Cwynodd Ms A ei bod wedi cyflwyno cwyn ffurfiol, ond na chafodd ymateb gan y Gymdeithas Dai.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi cyn i’r Gymdeithas Dai gwblhau’r gwaith atgyweirio ar eiddo Ms A ac ymateb i’w chŵyn ffurfiol. Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Gymdeithas Dai, ac fe gytunwyd i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Dai i ymddiheuro i Ms A am yr oedi cyn cwblhau’r gwaith atgyweirio ac ymateb i’r gŵyn ffurfiol, ac i gwblhau’r atgyweiriadau i’r eiddo.