Cwynodd Mr A fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â darparu’r pigiadau yr oedd eu hangen i drin ei dystonia (cyflwr niwrolegol sy’n achosi cyfangiadau cyhyrau direolaeth). Dywedodd fod hyn wedi golygu ei fod wedi gorfod ceisio triniaeth breifat yn ystod y cyfnod hwn.
Derbyniodd y Bwrdd Iechyd y bu cyfnod o amser pan nad oedd yn gallu darparu unrhyw wasanaeth i gleifion dystonia oherwydd materion staffio penodol. Roedd y gwasanaeth bellach yn weithredol ac apwyntiadau wedi’u trefnu. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ad-dalu cost pigiadau Mr A a oedd yn dod o fewn y cyfnod pan nad oedd wedi gallu darparu unrhyw wasanaeth.