Cwynodd Mr B fod Cyngor Sir Wrecsam wedi methu â gwneud penderfyniad ynghylch cais yr oedd wedi’i gyflwyno am Drwydded Safle Carafanau Preswyl. Gwnaeth Mr B y cais am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 2023. Dywedodd nad oedd y Cyngor wedi dilyn y broses statudol, gan wastraffu ei amser ac adnoddau, ac wedi achosi niwed i’w enw da.
Canfu ein hasesiad fod Mr B wedi ymateb yn brydlon i geisiadau am ragor o wybodaeth. Fodd bynnag, nid oedd y Cyngor o’r farn bod yr wybodaeth a ddarparodd Mr B yn ddigonol. Cyhoeddodd y Cyngor hysbysiad o fwriad i wrthod cais Mr B ym mis Hydref 2023. Yn dilyn cais am ragor o wybodaeth ar 28 Tachwedd 2023, yr ymatebodd Mr B iddo ar y diwrnod canlynol, ni gysylltwyd ag ef eto tan 25 Mehefin 2024 pan wnaed cais i gwrdd ag ef i drafod yr wybodaeth sy’n weddill.
Yn dilyn hynny, cododd Mr B gŵyn a chais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Cafodd gohebiaeth bellach ei chyfnewid gyda Mr B ynghylch yr wybodaeth sy’n weddill. Roedd Mr B yn anghytuno bod yr wybodaeth a ddarparwyd ganddo yn annigonol. Adeg cwyno i’r Ombwdsmon ym mis Hydref 2024, nid oedd ei gais wedi’i benderfynu.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor i gytuno ar gamau pellach i ddatrys cwyn Mr B. Cytunodd y Cyngor i wneud y canlynol:
• O fewn 4 wythnos, darparu ymateb pellach i Mr B sy’n cynnwys ymddiheuriad, cydnabyddiaeth ac esboniad o pam na ystyriwyd ei gais o fewn cyfnod cwblhau targed y Cyngor, gan fynd i’r afael yn benodol â’r hyn a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod rhwng 29 Tachwedd 2023 a 25 Mehefin 2024.
• O fewn 4 wythnos, darparu ymddiheuriad i Mr B am roi gwybodaeth anghywir iddo fod ffi yn ddyledus mewn perthynas â’i gais.
• Caniatáu pythefnos arall i Mr B gyflwyno unrhyw wybodaeth bellach i gefnogi ei gais ac, yn dilyn hynny, cytuno i wneud penderfyniad ar y cais o fewn 4 wythnos.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y camau gweithredu y cytunwyd arnynt yn rhesymol i ddatrys cwyn Mr B.