Cwynodd Mrs A am sŵn sy’n deillio o bwmp gwres ei chymdogion. Cwynodd am benderfyniad Cyngor Dinas Casnewydd (“y Cyngor”) i beidio â thrin y mater fel niwsans sŵn statudol. Cwynodd hefyd fod y Cyngor wedi methu â dilyn gweithdrefnau perthnasol ar gyfer delio â chwynion ynghylch sŵn amledd isel.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad mai dim ond drwy’r camau a gymerwyd ac ymchwiliadau a gynhaliwyd gan y Cyngor y gellid pennu niwsans statudol. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon wedi ystyried pryderon Mrs A ynghylch y dyddiad / amser yr ymwelodd swyddogion y Cyngor â’r eiddo i fonitro’r sŵn, a chyfyngiadau mesur synau amledd isel gan ddefnyddio’r ap sŵn. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor y byddai’n gosod offer monitro sŵn ym mis Tachwedd 2024 ac y byddai’r offer yn aros yn ei le am 10 diwrnod.