Cwynodd Mr C am gau ei ganolfan ddydd iechyd meddwl yn 2020, gan gynnwys y diffyg ymgynghori. Mynegodd Mr C bryderon hefyd am y ddarpariaeth canolfannau dydd amgen a ddarparwyd, a pham nad oedd yn briodol ar gyfer ei anghenion. Roedd Mr C yn anfodlon â’r ymatebion i gwynion Cam 1 a Cham 2 a dderbyniodd. Cwynodd Mr C hefyd am daliadau uniongyrchol yr oedd wedi’u gwneud mewn perthynas â chynorthwyydd personol, a oedd yn destun anghydfod.
Nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn y byddai ymchwiliad i brif gwynion Mr C yn cyflawni llawer mwy gan fod yr ymatebion i’r gŵyn yn ymddangos yn rhesymol.
Nid oedd y Cyngor wedi cael cyfle blaenorol yn ei ymatebion i’r gŵyn i roi sylw i’r materion penodol ynghylch taliadau uniongyrchol a godwyd gan Mr C. Cytunodd y Cyngor, fel rhan o ddatrysiad cynnar, i ymateb i bryderon Mr C yn y maes hwn. Cytunodd hefyd i roi anfoneb wedi’i diweddaru i Mr C, ymddiheuro am wallau anfonebu, adolygu a oedd gwersi i’w dysgu, ac i hysbysu / hwyluso’n briodol ailasesiad o anghenion gofal cymdeithasol / iechyd meddwl Mr C.