Dyddiad yr Adroddiad

01/11/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Pwnc

Eraill Amrywiol

Cyfeirnod Achos

202405395

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi methu â chymryd camau yn erbyn Clwb Bowlio sy’n camddefnyddio Trwydded Eiddo sydd â chyfamod cyfyngol yn y teitl.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y Cyngor wedi methu ag ymateb i gŵyn Mr X yn unol â’i broses gwyno. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hynny wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd, a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro am yr oedi, esbonio’r rhesymau am yr oedi, ac i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 2 wythnos i benderfyniad yr Ombwdsmon.