Cwynodd Mrs A am benderfyniad y Bwrdd Iechyd i ohirio llawdriniaeth ei diweddar ŵr. Cwynodd hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â monitro ei ganser yn ddigonol yn y cyfamser. Dywedodd Mrs A fod ymateb y Bwrdd Iechyd i’w chŵyn wedi methu ag ymateb i’w chwestiynau.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb i gŵyn Mrs A, ond nododd fod agweddau ar yr ymateb yr oedd Mrs A yn anhapus â hwy. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y byddai’n ddefnyddiol i Mrs A gael ymateb y Bwrdd Iechyd i’r cwestiynau a / neu’r pwyntiau a godwyd. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn chwe wythnos, yn anfon ymateb ysgrifenedig arall at Mrs A i fynd i’r afael â’r cwestiynau a / neu’r pwyntiau a godwyd sy’n weddill.