Cwynodd Mr A, wrth aros am driniaeth claf mewnol o dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Bwrdd Iechyd”), ei fod wedi cael ei gadw’n ddiangen fel claf ‘dim trwy’r geg’. Mae Mr A yn credu bod hyn wedi golygu ei fod wedi cael ei ffit gyntaf a’i fod wedi colli ei drwydded yrru o ganlyniad. Mae Mr A yn honni bod ymatebion y Bwrdd Iechyd i’w gŵyn yn anonest.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod rhai anghysondebau gydag ymatebion y Bwrdd Iechyd i gwynion Mr A, a’r wybodaeth a gofnodwyd yng nghofnodion meddygol Mr A. Dywedodd fod hyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 1 mis, yn ymddiheuro i Mr A am iddo orfod cysylltu â’r Ombwdsmon; yn darparu ymateb pellach i Mr A, gan egluro’r materion a godwyd mewn perthynas â faint o hylif a yfodd, a’r monitro, ar ddiwrnod ei driniaeth; ac yn ymddiheuro am unrhyw faterion a nodwyd mewn perthynas â’r gofal a ddarparwyd, ac am unrhyw gamgymeriadau a chroesddywediadau a nodwyd yn ymatebion blaenorol y Bwrdd Iechyd. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i nodi unrhyw bwyntiau dysgu a chamau gweithredu perthnasol.