Cwynodd Mrs X fod Cyngor Caerdydd wedi methu â chasglu ei chasgliadau gwastraff Cymorth Casglu Gwastraff (“AL”) ar sawl achlysur, yn unol â’i bolisi AL.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod y Cyngor wedi methu â chynnal casgliadau gwastraff AL rheolaidd ac, er gwaethaf cwyn flaenorol, wedi methu â monitro’r casgliadau. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor y byddai, o fewn 3 wythnos i benderfyniad yr Ombwdsmon, yn ysgrifennu at Mrs X i ymddiheuro am yr anhwylustod y mae wedi’i ddioddef, ac i ddarparu sicrwydd ysgrifenedig y bydd y mater yn cael ei gofnodi a’i fonitro gan Reolwr y Tîm Casgliadau am y 3 mis nesaf.