Cwynodd Mr X fod y Feddygfa wedi methu ag ymateb yn llawn i’w gŵyn ynghylch ei bryderon am roi presgripsiynau stoma anghywir i’w dad.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Feddygfa wedi ymateb i gŵyn gychwynnol Mr X, nid oedd wedi ymateb i holl agweddau’r llythyr. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hynny wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Feddygfa i ymddiheuro am yr esgeulustod, yr oedi a’r anghyfleustra a achoswyd, ac i gyhoeddi ymateb pellach i’r gŵyn o fewn 3 wythnos.