Dyddiad yr Adroddiad

26/11/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202405901

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi methu ag ymateb yn ffurfiol i’w llythyrau cwyno, mewn perthynas â gofal ei mam-gu ddiweddar .

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi trafod pryderon Mrs A gyda hi mewn cyfarfod, ond ei fod wedi methu ag ymateb yn ffurfiol i’r llythyron, er gwaethaf cais gan Mrs A i wneud hynny. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hynny wedi achosi rhwystredigaeth ac anhwylustod i Mrs A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd, a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs A a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.