Gair gan yr Ombwdsmon, Michelle Morris

Croeso i 6ed rhifyn ein newyddlen.

Rydym bellach wedi cwblhau ail flwyddyn ein Cynllun strategol Strategol 2023-26 ‘Pennod Newydd’. Mae llawer o gamau gweithredu a amlinellwyd o dan y Cynllun bellach wedi’u cyflawni a byddwn yn parhau i weithio tuag at ein nodau uchelgeisiol yn ystod 2025/26.

Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ailadeiladu enw da’r swyddfa, yn dilyn y digwyddiad cyfryngau cymdeithasol y llynedd a daflodd amheuaeth ar ein didueddrwydd. Er bod adolygiad annibynnol o’n hymchwiliad i Gwynion Cod Ymddygiad wedi canfod bod ein proses gwneud penderfyniadau yn briodol, yn deg ac yn rhydd o ragfarn wleidyddol, gwnaeth argymhellion hefyd i wella’r mesurau diogelu presennol ar gyfer sicrhau tegwch a didueddrwydd.

Dros y misoedd diwethaf, rydym hefyd wedi canolbwyntio ar adolygiad ôl-ddeddfwriaethol y Pwyllgor Cyllid o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r Senedd gynnal adolygiad ôl-ddeddfwriaethol cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl 21 Mai 2024 (hynny yw, pum mlynedd ers i Ddeddf 2019 gael Cydsyniad Brenhinol). Rydym wedi bod yn brysur yn casglu tystiolaeth ar effaith ein pwerau rhagweithiol i dderbyn cwynion ar wahân i rai ysgrifenedig; cynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun; a gosod safonau cwynion. Rydym hefyd wedi cael ein gwahodd i siarad â’r Pwyllgor ar 30 Ebrill.

Yn y cyfamser, rydym unwaith eto yn dod â chrynodeb cyflym o’n cwynion a’n gwaith gwella i chi. Yn y rhifyn hwn o’r newyddlen, nid ydym yn cynnwys ein hystadegau cwynion diwedd blwyddyn, gan y bydd y manylion llawn ar gael yn ein Hadroddiad a Chyfrifon Blynyddol ar gyfer 2024/25. Fodd bynnag, rydym yn cyflwyno crynodebau o’n hadroddiadau budd y cyhoedd a’n atgyfeiriadau Cod Ymddygiad diweddar, yn ogystal â manylion ein dau adroddiad thematig diweddar a’n gwaith safonau cwynion.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur! Er gwaethaf yr heriau, mae gennym lawer i fod yn falch ohono. Rydym yn edrych ymlaen at rannu mwy o dystiolaeth o’n heffaith yn ein cyflwyniad i Bwyllgor Cyllid y Senedd yn ogystal â thrafod pob maes o’n perfformiad yn ein Hadroddiad Blynyddol nesaf.

Adroddiadau Budd y Cyhoedd

Rhwng Tachwedd 2024 a Mawrth 2025 rydym wedi cyhoeddi 3 adroddiad budd y cyhoedd.

Cyfeirnod achos 202303356 – Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Canfuom y byddai claf canser yn debygol o fod wedi goroesi’n hirach, pe bai atgyfeiriad brys cynharach wedi’i wneud gan bractis meddyg teulu’r claf. Dylai symptomau’r claf fod wedi arwain at atgyfeiriad brys o amheuaeth o ganser ym mis Gorffennaf 2021. Fodd bynnag, er gwaethaf ei symptomau parhaus a sawl cyfle a gollwyd, dim ond ym mis Mai 2022 y cafodd y claf ei hatgyfeirio gan y Practis ar gyfer ymchwiliad pellach. (Canfyddiadau llawn o’r adroddiad)

Cyfeirnod achos 202306104 – Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Canfuom nad oedd yr Ymddiriedolaeth wedi rheoli dwy alwad 999 yn briodol am glaf a lewygodd gartref ac a fu farw’n ddiweddarach. Golygodd hyn oedi o 32 munud cyn i ambiwlans ymweld â’r claf. Canfuom hefyd fethiannau yn safon y cyngor a roddwyd gan staff yr Ymddiriedolaeth dros y ffôn yn ogystal ag ym mhroses cadw cofnodion y parafeddyg a oedd yn bresennol. Canfuom hefyd fethiannau yn sut y gwnaeth yr Ymddiriedolaeth drin â’r gŵyn wreiddiol am y methiannau hyn. (Canfyddiadau llawn o’r adroddiad)

Cyfeirnod achos 202302966, 202307480 – Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Canfuom na wnaeth yr Ymddiriedolaeth ystyried uwchgyfeirio’r categori ymateb ambiwlansys yn gywir, wrth ymateb i alwad brys am glaf oedrannus a syrthiodd gartref. Cyrhaeddodd ambiwlans y cyfeiriad tua 16 awr ar ôl y cyntaf o 6 galwad brys a wnaed gan y teulu. Canfuom hefyd fethiannau yn sut y gwnaeth yr Ymddiriedolaeth drin â’r gŵyn wreiddiol am y methiannau hyn.

Ni wnaethom gadarnhau’r gŵyn yn erbyn y Bwrdd Iechyd am safon gofal y claf ar ôl iddo gael ei dderbyn i’r ysbyty. (Canfyddiadau llawn o’r adroddiad)

Atgyfeiriadau cwynion y Cod Ymddygiad

Ers mis Tachwedd, rydym wedi gweld penderfyniadau ar atgyfeiriadau ymchwilio i Bwyllgorau Safonau ac i Banel Dyfarnu Cymru:

Y Cynghorydd Baines o Gyngor Tref y Waun (202107304)

Derbyniom gŵyn bod y Cynghorydd Baines o Gyngor Tref y Waun wedi torri’r Cod Ymddygiad. Honnwyd bod y Cynghorydd wedi anfon negeseuon at unigolyn ar gyfryngau cymdeithasol yn bygwth i adrodd ar eu partner a’u rhwystro rhag cael gwaith gan y Cyngor.

Canfu ein hymchwiliad nad oedd esboniad y Cynghorydd am ei fwriad dros anfon y neges yn un credadwy.  Gellid yn rhesymol ddehongli’r negeseuon fel bod y Cynghorydd yn awgrymu y byddai’n camddefnyddio ei swydd fel aelod er mwyn rhoi gŵr yr unigolyn dan anfantais.

Cyfeiriom yr adroddiad ar yr ymchwiliad i Bwyllgor Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Canfu’r Pwyllgor fod y Cynghorydd Baines wedi methu â chydymffurfio â pharagraff 7(a) o’r Cod Ymddygiad.

Penderfynodd y Pwyllgor mai’r sancsiwn mwyaf priodol i’w gymhwyso oedd ceryddu a nododd mai dyna’r unig gosb oedd ar gael iddo o ystyried ymddiswyddiad yr aelod o’r Cyngor. (Crynodeb llawn o’r achos)

Y Cynghorydd Phillips o Gyngor Cymuned Llansanffraid (202208582)

Derbyniom gŵyn bod y Cynghorydd Phillips o Gyngor Cymuned Llansanffraid wedi torri’r Cod Ymddygiad yn dilyn collfarn droseddol am yrru tra’n uwch na’r terfyn cyfreithiol ar gyfer alcohol. Er bod yr ymddygiad y cwynwyd amdano wedi digwydd yn rhinwedd bersonol y Cynghorydd, ystyriasom y gallai ei gollfarn, a oedd yn ddifrifol, a’r sylw dilynol yn y wasg, fod wedi dwyn anfri ar ei swydd fel aelod. Cyfeiriom yr ymchwiliad at Bwyllgor Safonau Cyngor Sir Ceredigion. Canfu’r Pwyllgor fod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â pharagraffau 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad. Penderfynodd y Pwyllgor mai’r sancsiwn mwyaf priodol i’w gymhwyso oedd ei geryddu. (Crynodeb llawn o’r achos)

Y Cynghorydd Steven Bletsoe o Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr (202204885)

Derbyniom gŵyn bod y Cynghorydd Steven Bletsoe o Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr wedi torri’r Cod Ymddygiad.

Awgrymodd ein hymchwiliad fod yr aelod

  • wedi methu â datgan buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn cyfarfod o’r Cyngor
  • wedi cymryd rhan mewn trafodaeth yng nghyfarfod y Cyngor pan na ddylai fod wedi gwneud o ystyried ei fuddiannau; a
  • thrwy gymryd rhan yn y drafodaeth, iddo geisio dylanwadu ar benderfyniad ar y mater a drafodwyd i ennill mantais i’w wraig.

Cyfeiriom ein hadroddiad ar ein hymchwiliad at Bwyllgor Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Penderfynodd y Pwyllgor Safonau fod y cynghorydd wedi torri sawl paragraff o’r Cod Ymddygiad a phenderfynodd ei wahardd am 6 mis. Er i’r mater gael ei ystyried ar apêl gan Banel Dyfarnu Cymru a argymhellodd gyfnod llai o atal, cadarnhaodd y Pwyllgor Safonau ei benderfyniad gwreiddiol. (Crynodeb llawn o’r achos)

Y Cynghorydd Freya Bletsoe o Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr (202201997)

Derbyniom gŵyn bod y Cynghorydd Freya Bletsoe o Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr wedi torri’r Cod Ymddygiad.  Honnwyd bod y Cynghorydd wedi bwlio’r achwynydd, un o weithwyr y Cyngor, dros nifer o flynyddoedd, ac nad oedd wedi trin yr achwynydd â chwrteisi a pharch.  Yn dilyn ymchwilio, ystyriasom fod ymddygiad y Cynghorydd yn awgrymu achosion o dorri’r Cod ac felly cyfeiriom ein hadroddiad ar yr ymchwiliad at Lywydd Panel Dyfarnu Cymru, i’w ddyfarnu gan dribiwnlys.

Canfu’r Tribiwnlys fod y Cynghorydd wedi methu â chydymffurfio â nifer o ddyletswyddau’r Cod.  Canfu fod y Cynghorydd wedi

  • methu â thrin yr achwynydd ag ystyriaeth a pharch;
  • gwneud cwynion blinderus, maleisus neu ddisylwedd am yr achwynydd;
  • bwlio/aflonyddu yr achwynydd, a
  • ymddwyn mewn ffordd a ddaeth ag anfri ar y Cyngor.

Penderfynodd y Tribiwnlys anghymhwyso’r Cynghorydd rhag bod yn aelod o Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr am 21 mis. (Crynodeb llawn o’r achos)

 

Mae un penderfyniad pellach y cyfeiriasom at Bwyllgor Safonau am wrandawiad yn cael ei ystyried ar hyn o bryd ar apêl gan Banel Dyfarnu Cymru.

Gwaith gwella

Mae gennym hefyd rôl bwysig o ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus.  Yn unol â’n deddfwriaeth, rydym yn cyhoeddi adroddiadau thematig gydag argymhellion cyffredinol i gyrff cyhoeddus gan ddefnyddio’r gwersi a ddysgwyd o’n gwaith achos.

Adroddiad Thematig ‘Byw mewn Cyflyrau Difrifol’

Ym mis Tachwedd, cyhoeddom adroddiad thematig am gwynion tai yn ymwneud â diffyg atgyweirio a lleithder a llwydni.

Rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2024, roedd cwynion tai cyffredinol yn ffurfio 17% o’n cwynion newydd – yr ail bwnc uchaf o ran cwynion ar ôl gofal iechyd (36%). Roedd bron i 800 o’r cwynion hynny yn gwynion am ddiffyg atgyweirio.

Nodom y themâu a’r pwyntiau dysgu canlynol:

  • Cwyn neu gais am wasanaeth: Ni ddylai fod yn rhaid i feddianwyr wneud cwyn i weld gwaith adfer yn cael ei wneud ac, yn yr un modd, ni ddylent orfod mynd ar ôl cyrff cyhoeddus dro ar ôl tro er mwyn cychwyn cwyn. Pan fo’n rhaid i feddiannydd wneud hyn, rydym o’r farn bod y corff cyhoeddus wedi cael cyfle rhesymol i ymateb i’r materion a godwyd.
  • Ansawdd arolygiadau cyn gosod: Ar y pwynt gosod, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i landlordiaid sicrhau bod eiddo mewn cyflwr da ac yn ffit i fyw ynddo. Mae’r Adroddiad yn amlygu tystiolaeth o arolygiadau cyn gosod o ansawdd amheus mewn rhai o’r cwynion a dderbyniwyd gennym.
  • Deiliaid mewn sefyllfaoedd agored i niwed: Mae’r Adroddiad yn rhoi tystiolaeth o sawl enghraifft achos o feddianwyr mewn sefyllfaoedd agored i niwed a fyddai wedi aros gryn dipyn yn hirach i’r gwaith angenrheidiol gael ei gwblhau, oni bai am ymyrraeth ein swyddfa.
  • Ymdrin â Chwynion: Mae’r Adroddiad yn rhoi tystiolaeth o sawl enghraifft o achosion lle mae ymatebion i gwynion yn cael eu gohirio yn ôl pob golwg tra bod y corff yn gwneud rhywfaint o waith yn y cyfamser, efallai i’r ymateb wneud i’r corff edrych yn dda, neu’r corff yn methu â chofnodi cwyn yn gywir.

Mae’r Adroddiad hefyd yn tynnu sylw at dystiolaeth gadarnhaol o arfer da mewn perthynas â cheisio barn broffesiynol yn ystod ymchwiliad corff cyhoeddus i gŵyn, gan ddangos ymchwiliad cadarn ac awydd gan y landlord i ddod o hyd i’r rheswm am y mater.

Argymhellom y dylai pob landlord sector cyhoeddus/cymdeithasol yng Nghymru:

  • gynnal arolwg stoc, i nodi eiddo sy’n dioddef o leithder a llwydni, neu mewn perygl o hynny, yn well;
  • cynnal arolygiad cyn gosod llawn a phriodol cyn bod deiliad yn symud i mewn ac yn cwblhau’r holl waith angenrheidiol cyn i’r ddeiliadaeth ddechrau;
  • cofnodi ceisiadau gwasanaeth ailadroddus fel cwynion, pan nad yw gwaith wedi’i wneud;
  • defnyddio syrfewyr annibynnol i archwilio eiddo lle mae cwynion wedi’u gwneud am ddiffyg atgyweirio difrifol.

Adroddiad thematig ‘Mae Cydraddoldeb o Bwys’

Ym mis Ionawr, cyhoeddom yr ail Adroddiad Thematig eleni – ‘Mae Cydraddoldeb o Bwys’.

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi rhannu gwybodaeth am achosion lle mae goblygiadau cydraddoldeb a hawliau dynol wedi cael eu hystyried mewn Coflyfr Cydraddoldeb a Hawliau Dynol blynyddol. Eleni, penderfynom gyhoeddi Adroddiad Thematig yn lle hynny, o ystyried bod rhai themâu cydraddoldeb a hawliau dynol yn parhau i ymddangos mewn gwaith achos.

Gan dynnu ar adolygiad o achosion a gaewyd gennym rhwng mis Ebrill 2023 a Medi 2024, mae ein Hadroddiad yn taflu goleuni ar themau sy’n codi dro ar ôl tro yn ymwneud â’r anawsterau y mae pobl wedi’u hwynebu wrth gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Ymhlith y themâu a’r pwyntiau dysgu allweddol a amlygwyd yn yr Adroddiad yw’r diffyg addasiadau rhesymol ar gyfer unigolion ag anghenion penodol, megis anableddau dysgu, problemau symudedd difrifol, neu awtistiaeth a dyslecsia.  Mae’r Adroddiad hefyd yn tynnu sylw at heriau sy’n deillio o gyfathrebu yn wael â phobl sydd ag anghenion iaith neu nam ar y synhwyrau.

Yn ogystal, mae’r Adroddiad yn codi pryderon am gyrff cyhoeddus sydd wedi methu â threfnu polisïau darparu gwasanaethau â’u dyletswyddau cyfreithiol o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol. Fodd bynnag, mae hefyd yn amlygu enghreifftiau o arfer da sy’n dangos sut y gall gwasanaethau cyhoeddus fodloni safonau cydraddoldeb a hawliau dynol yn effeithiol.

Mae’r Adroddiad Thematig yn gwneud sawl argymhelliad ar gyfer pob corff cyhoeddus yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar wella cynhwysiant a hygyrchedd ar draws gwasanaethau cyhoeddus.

Data safonau cwynion

Ym mis Ionawr, cyhoeddom ddata ar gwynion y mae cynghorau lleol yng Nghymru wedi delio â nhw yn ystod hanner cyntaf blwyddyn ariannol 2024/25.

Dangosodd y data y canlynol yn ystod y cyfnod hwnnw:

  • cofnododd cynghorau lleol bron i 11,000 o gwynion, cynnydd ar y blynyddoedd blaenorol
  • deliodd cynghorau lleol â mwy na 75% o gwynion o fewn yr amser targed o 20 diwrnod gwaith – tebyg i flynyddoedd blaenorol.
  • y prif themâu cwynion i gynghorau lleol oedd gwastraff a sbwriel (37%), tai (18%) a gwasanaethau cymdeithasol (12%)
  • cadarnhaodd cynghorau lleol fwy na 50% o’r holl gwynion, cynnydd bach ers y llynedd.

Cyhoeddom hefyd ddata ar gwynion y mae Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau Iechyd Cymru wedi delio â nhw yn ystod y cyfnod hwnnw. Dangosodd y data fod

  • Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau Cymru wedi cofnodi ychydig dros 9,000 o gwynion – nifer ychydig yn is o gymharu â’r un cyfnod y llynedd
  • Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau Cymru wedi cau mwy nag 80% o gwynion o fewn y targed o 30 diwrnod gwaith – gwelliant ar yr un cyfnod y llynedd

Arhosodd cyfran y cwynion y gwnaeth cynghorau lleol, Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau Cymru eu delio â nhw, ac yna eu cyfeirio atom, yn debyg iawn i’r llynedd.

Nodweddion newydd ar ein gwefan

Rydym yn parhau i wella ein gwefan i sicrhau ei bod yn gwbl hygyrch a’i bod yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i’n hachwynwyr, sefydliadau yn ein hawdurdodaeth a’r wasg a’r cyhoedd. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i dynnu sylw eto at y nodweddion newydd neu’r rhai diweddaredig sydd ar gael:

Ein canfyddiadau

I bori neu chwilio am grynodebau o gwynion y gwnaethom eu datrys yn gynnar neu ymchwilio iddynt, gweler  Ein Canfyddiadau. Mae’r nodwedd hon bellach wedi’i huwchraddio i ganiatáu defnyddwyr i ddewis cwynion am wasanaethau cyhoeddus neu am y Cod Ymddygiad.

Gwiriwr Cwyn. Offeryn i wirio a allwn ymchwilio i gŵyn ai peidio.

Rhowch gynnig ar ein Gwiriwr Cwynion newydd.

Ein rhestr Cyrff Eirioli a Chynghori sydd newydd ei diweddaru. Mae’r rhestr gynhwysfawr hon wedi’i dylunio i helpu’r cyhoedd i ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnynt wrth wneud cwyn, neu os na allwn ymchwilio i’w cwyn. Pa un a ydynt yn ceisio cyngor neu eiriolaeth, bydd ein cyfeiriadur diweddaredig yn eu harwain at y cymorth cywir.

Gwyliwch ein fideo am gyfarwyddiadau cam wrth gam ar sut i gyrchu’r rhestr a’i defnyddio.

Tab Hawdd ei Ddeall. Bellach mae gennym dab pwrpasol ar gyfer ein dogfennau Hawdd eu Deall. Mae dogfennau Hawdd eu Deall wedi’u cynllunio i wneud gwybodaeth yn hygyrch i bawb, yn enwedig y rhai ag anableddau dysgu. Defnyddiant iaith syml a lluniau clir i sicrhau dealltwriaeth i bawb.

Darllenwch fersiynau Hawdd eu Deall o’n dogfennau.

Allgymorth

Rydym yn parhau i fanteisio ar gyfleoedd i godi ymwybyddiaeth o’n gwasanaeth ymhlith grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ymhlith ein hachwynwyr:

  • siaradwyr Cymraeg,
  • pobl anabl,
  • pobl o genhedloedd ac ethnigrwydd amrywiol
  • pobl ifanc,
  • pobl sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol

Ers mis Tachwedd, gwnaethom achub ar gyfleoedd i hyrwyddo gwelliant a chodi ymwybyddiaeth o’n swyddfa yn:

  • Cynhadledd TPAS Cymru
  • Digwyddiad Ffyrdd Iach o Fyw Clwstwr De Orllewin Caerdydd
  • Cynhadledd Tai Cymunedol Cymru

Cysylltwch â’n Tîm Cyfathrebu yn cyfathrebu@ombwdsmon.cymru i drafod unrhyw weithgareddau allgymorth.

I ymuno â’r rhestr wasg ar gyfer newyddion  OGCC, anfonwch e-bost atom yn cyfathrebu@ombwdsmon.cymru.