Cwynodd Mr X fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi methu ag ymateb i’w gŵyn a gyflwynwyd iddo ym mis Hydref 2024 ynghylch gwall gweinyddol a ddigwyddodd. Yn sgil y gwall hwn, ni chafodd ei benodi’n llywodraethwr ysgol yn groes i’r ohebiaeth flaenorol a gafodd.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y Cyngor wedi methu ag ymateb i’r gŵyn yn unol â’i broses gwyno fewnol. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hynny wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymateb i gŵyn Mr X o fewn pythefnos. Dylai’r ymateb gynnwys ymddiheuriad ac esboniad hefyd am y diffyg diweddariadau ac am yr oedi.