Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bwerau i ymgymryd ag ymchwiliadau ‘ar ei liwt ei hun’ lle mae tystiolaeth yn awgrymu y gall fod methiant mewn gwasanaeth neu gamweinyddu.
Yn dilyn ymgynghoriad i’r egwyddor o gynnal ymchwiliad i weinyddu’r broses adolygu digartrefedd gan awdurdodau lleol yng Nghymru, mae’r Ombwdsmon bellach wedi ystyried yr ymatebion a ddaeth i law. Roedd yna amrywiaeth o ymatebion. Roedd rhai ymatebion yn awgrymu nad oedd angen adolygiad, tra roedd eraill yn pryderu nad oedd hi’n amser da i gynnal ymchwiliad o ystyried y pwysau ar awdurdodau lleol yn sgil COVID. Roedd ymatebion eraill yn croesawu’r syniad o gynnal ymchwiliad i’r maes hwn, gan nodi’r gwaith da sydd eisoes wedi cael ei wneud yn y maes ac yn cydnabod gwerth llety addas a diogel fel un o’r mesurau sy’n gallu helpu i leihau bregusrwydd yn ystod COVID-19.
Ar ôl ystyriaeth ofalus o’r sylwadau a ddaeth i law, mae’r Ombwdsmon wedi paratoi cynnig penodol ar gyfer yr ymchwiliad. Mae’r cynnig am ymchwiliad penodol a chymesur, yn ymwneud â sampl fach o awdurdodau lleol. Gwahoddir sylwadau ac ymatebion ar y cynnig penodol hwn.
Darllenwch mwy yma.