Canfu ymchwiliad gan yr Ombwdsmon bod claf sy’n dioddef gan ganser wedi cael prostatectomi diangen ar ôl i staff iechyd fethu â gwneud diagnosis cywir o’i ganser.
Cwynodd Miss Y (dienw) ar ran ei phartner, Mr X, (dienw) bod staff yn Ysbyty Brenhinol Gwent wedi:
- Methu â wneud diagnosis cywir o ganser Mr X rhwng Chwefror a Mehefin 2018
- Roedd y diagnosis anghywir yn golygu na chafodd Mr X yr holl ffeithiau am ei iechyd i’w alluogi i wneud penderfyniad gwybodus am driniaeth yn y dyfodol (gan gynnwys dod o hyd i unrhyw opsiynau triniaeth amgen).
- Effeithiodd yr oedi cyn cael diagnosis cywir (a wnaed ym mis Rhagfyr 2018) yn andwyol ar ansawdd ei fywyd.
Cadarnhaodd yr ymchwiliad gŵyn Ms Y a chanfu fod staff wedi diystyru nodau lymff pelfig chwyddedig Mr X. Dywedwyd wrth Mr X fod ei ganser wedi’i gyfyngu i’r organ ac felly cafodd prostatectomi diangen gan arwain at iddo ddioddef sgil-effeithiau gwanychol y llawdriniaeth a effeithiodd ar ansawdd ei fywyd.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cytuno i sawl argymhelliad, gan gynnwys rhoi ymddiheuriad llawn i Miss Y a Mr X am y methiannau a nodwyd, yn ogystal â thalu iawndal o £5000 i Mr X am y methiannau yn ei ofal.
Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
“Canfu fy ymchwiliad nad oedd gan Mr X y ffeithiau llawn i wneud penderfyniad gwybodus am ei driniaeth.
“Er nad oedd ei brognosis cyffredinol yn debygol o fod wedi newid yn sylweddol, yn anffodus, mae wedi dioddef effeithiau gwanychol llawdriniaeth nad oedd wir ei hangen arno. Mae hyn yn anghyfiawnder aruthrol.
“Mae’n hollbwysig i’r Bwrdd Iechyd ddysgu o hyn i sicrhau nad yw’r un camgymeriadau yn cael eu gwneud eto. Bydd fy swyddfa yn mynd ar drywydd i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’m hargymhellion.”
I ddarllen yr adroddiad, ewch yma.