Dyddiad yr Adroddiad

19/04/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202001107

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A am y driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan rhwng Chwefror 2019 a Mawrth 2020. Yn benodol, cwynodd Mrs A nad oedd sgan arbenigol wedi dangos tiwmor yn ei chroth. Roedd yn anfodlon nad oedd opsiynau ar gyfer triniaeth, yn cynnwys y posibilrwydd o hysterectomi, wedi’u hystyried a’u trafod yn llawn â hi cyn y llawdriniaeth a gafodd a theimlai, pe byddai hyn wedi digwydd, ei bod yn bosibl na fuasai arni angen cael 2 lawdriniaeth. Cwynodd Ms A y dylai’r Meddyg Ymgynghorol fod wedi cael cydsyniad ganddi ar gyfer hysterectomi cyn ei llawdriniaeth gyntaf.

Cafodd yr Ombwdsmon fod y sganiau wedi’u cofnodi’n gywir, ac nad yw bob amser yn bosibl canfod o ble mae casgliad wedi tarddu heb roi llawdriniaeth. Felly ni chadarnhaodd y rhan hon o gŵyn Mrs A. Cafodd nad oedd cofnod o sgwrs a gafodd y Meddyg Ymgynghorol â Mrs A yn trafod ei dewisiadau ar gyfer triniaeth, yn cynnwys unrhyw beryglon ychwanegol posibl. Hefyd roedd rhai elfennau yn y cofnodion meddygol a gadwyd a oedd yn anghywir neu’n aneglur. Felly cadarnhaodd y rhan hon o’r gŵyn. Er nad oedd yr Ombwdsmon yn gallu dweud yn bendant na fuasai angen 2 lawdriniaeth ar Mrs A, cafodd fod digon o dystiolaeth o’r angen posibl am hysterectomi fel y byddai wedi bod yn briodol i’r Meddyg Ymgynghorol drafod hyn â hi fel posibilrwydd. Felly cadarnhaodd y rhan hon o’i chŵyn.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 1 mis ar ôl adroddiad yr Ombwdsmon, yn ymddiheuro i Mrs A am y methiannau a nodwyd ac yn talu iawndal o £500 i gydnabod yr anghyfiawnder a achoswyd. Cytunodd hefyd i atgoffa staff perthnasol bod rhaid dogfennu trafodaethau pwysig â chleifion yn y cofnodion ac wedyn anfon llythyr crynodeb os oes modd; i ddarparu canllawiau priodol i staff perthnasol sy’n gysylltiedig mewn perthynas â chydsyniad meddygol; ac i staff drafod canfyddiadau’r adroddiad yn eu cyfarfod nesaf â’u goruchwyliwr.