Mr Morgan, a fu’n gwasanaethu fel Aelod Cynulliad am 12 mlynedd, ac a fu’n gyn Gadeirydd ar Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, fydd aelod diweddaraf Panel Cynghori a Phwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yr Ombwdsmon.
Mae’r Panel Cynghori yn rhoi cyngor a chymorth penodol i’r Ombwdsmon ar:
• weledigaeth, gwerthoedd a dibenion
• cyfeiriad strategol a chynllunio
• atebolrwydd i ddinasyddion am yr arian cyhoeddus a dderbynia
• trefniadau rheoli risg a rheolaeth fewnol.
Ers gadael y Cynulliad yn 2011 mae Jonathan wedi sefydlu Insight Wales Consulting Ltd, i weithio gyda sefydliadau ar draws y trydydd sector, y sector preifat a’r sector cyhoeddus ledled y DU, i’w helpu i gyfrannu at ddatblygiadau polisi a deddfwriaethol yng Nghymru. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr ar Practice Solutions sy’n gweithio gydag awdurdodau lleol yng Nghymru i’w helpu i drawsnewid y ffordd maent yn cyflenwi gwasanaethau cymdeithasol.
Meddai Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
“Rwyf wrth fy modd bod Jonathan wedi cytuno i ymgymryd â’r rolau hyn. Bydd ei brofiad a’i wybodaeth o fudd mawr i’r sefydliad ac i’r gwasanaethau cyhoeddus ehangach yng Nghymru.
“Fel aelod o’r panel cynghori, rhan fawr o’i gylch gorchwyl ydy fy herio a’m cefnogi fi fel Ombwdsmon.
“Mae’n ymuno â’r panel ar amser cyffrous i’m swyddfa oherwydd bod bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus drafft newydd wedi’i gyhoeddi yn y Cynulliad, ac rydym yn parhau â’n hymdrechion i wella gwasanaethau cyhoeddus a gostwng nifer y cwynion.”
Meddai Jonathan Morgan:
“Mae’n amser cyffrous i ymuno â’r panel cynghori i gefnogi a herio gwaith yr Ombwdsmon yng Nghymru, yn enwedig gan ein bod yn gweld pwyslais cynyddol ar roi lle canolog i ddinasyddion yn y broses gwneud penderfyniadau pan maent yn ystyried defnyddio gwasanaethau. Rwy’n edrych ymlaen at wneud cyfraniad llawn, gwybodus a chadarn yn y rôl newydd hon.”