Cyflwynodd Ms X gŵyn ar ran Mr Y am driniaeth a roddwyd i Mr Y gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Dywedodd Ms X fod diffyg cyfathrebu yn y Bwrdd Iechyd ynghylch a oedd Mr Y wedi torri asgwrn. Nid oedd wedi canfod bod gan Mr Y emboledd ysgyfeiniol a methodd â rhoi triniaeth ddilynol i Mr Y ynghylch gweithrediad ei ysgyfaint gwael. Dywedodd Ms X, er iddi gyflwyno cwyn i’r Bwrdd Iechyd, nad oedd wedi rhoi atebion ynglŷn â’r holl faterion a godwyd.
Canfu’r Ombwdsmon fod Ms X wedi cwyno i’r Bwrdd Iechyd dros y ffôn, ac nad oedd y nodyn a oedd yn cofnodi manylion ei chŵyn yn fanwl. Canfu nad oedd modd sefydlu gyda sicrwydd yn union beth oedd natur cwyn Ms X, ac o ganlyniad, a oedd ymateb y Bwrdd Iechyd yn rhoi digon o sylw i’w holl bryderon.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd, a chytunodd i wneud y pethau canlynol, o fewn
10 diwrnod gwaith:
· Trefnu cyfarfod wedi’i drefnu’n briodol gyda Ms X a Mr Y i sefydlu pob agwedd ar eu cwyn. Yn dilyn y cyfarfod hwn, byddai’n rhoi ymateb cynhwysfawr i’r holl bryderon a godwyd yn unol â Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pryderon, Cwynion a Threfniadau Gwneud Iawn) (Cymru) 2011.
Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon y byddai hyn yn datrys y materion a ystyriwyd yn y gŵyn hon.