Cwyn am yr amser a gymerwyd i wneud gwaith addasu i’r cartref dan y cynllun Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl. Dywedodd COMPL fod y Cyngor wedi methu â rhoi diweddariadau digonol ac wedi rhoi gwybodaeth anghywir ac amserlenni afrealistig a’i fod yn anhapus gyda’r esboniadau a ddarparwyd gan y Cyngor.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd rhai achosion o oedi yn afresymol nac o dan reolaeth y Cyngor. Gwnaeth y Cyngor ymdrechion priodol i liniaru’r oedi drwy gydol y broses. Fodd bynnag, roedd yr amserlen gyffredinol ar gyfer gwneud y gwaith adeiladu, a gytunwyd yn wreiddiol ym mis Gorffennaf 2016, yn ymddangos yn ormodol. Mae’r Cyngor wedi cydnabod ac wedi ymddiheuro am ddiffygion yn ei ymatebion i gwynion ac wedi lleihau cyfnod y tâl cyfreithiol o ran y gwaith a ariennir o 10 mlynedd i 5 mlynedd, a oedd yn ymddangos yn rhesymol. Canfu’r Ombwdsmon fod ymateb cychwynnol y Cyngor i’r gŵyn yn fyr ac nad oedd digon o fanylion am y rhesymau dros yr oedi.
Cytunodd y Cyngor i wneud y canlynol o fewn 20 diwrnod gwaith:
1. Rhoi esboniad ysgrifenedig am yr oedi, gan gynnwys amserlen o ddigwyddiadau a manylion y camau a gymerir gan y Cyngor i fynd i’r afael â’r oedi.
2. Adolygu’r mater i nodi meysydd i’w gwella a dysgu a rhoi manylion unrhyw gamau a gymerir i leihau’r siawns y bydd y sefyllfa hon yn digwydd eto.
3. Atgoffa’r staff sy’n gysylltiedig y dylid rhoi diweddariadau amserol ac ystyrlon i ddefnyddwyr y gwasanaeth os nad yw’n bosib bwrw ymlaen â’r gwaith o fewn yr amserlen a ragwelir.
Ym marn yr Ombwdsmon, roedd y camau uchod yn rhesymol i setlo’r gŵyn.