Dyddiad yr Adroddiad

04/05/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202006026

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) wedi methu â rhoi gofal a thriniaeth briodol i’w diweddar ŵr, Mr X, ac wedi methu â chyfathrebu’n briodol â hi.

Nododd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymchwilio i bryderon Mrs X am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd Mr X.

Felly cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud y pethau canlynol:

a) Gwahodd Mrs X i gyflwyno ei phryderon am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei diweddar ŵr, Mr X, o fewn 20 diwrnod gwaith.

Bydd y Bwrdd Iechyd yn ymchwilio i’r pryderon a godwyd gan Mrs X ac yn rhoi ymateb i gŵyn Gweithio i Wella (PTR) iddi o fewn 8 wythnos.