Dyddiad yr Adroddiad

06/21/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

Cyfeirnod Achos

201903330

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms C am y gofal a gafodd ei merch, H, ac am y modd y cafodd ei chyflwr ei reoli gan Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (“CAMHS”) Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg “(y Bwrdd Iechyd Cyntaf”), gan gynnwys yr hyn a deimlai Ms C oedd yn oedi afresymol cyn gwneud diagnosis o Anhwylder Personoliaeth Ffiniol (“BPD”) ei merch. Cwynodd Ms C hefyd am y diffyg cymorth a gafodd cyn 2018, ac am nad oedd CAMHS wedi ymateb i lythyr ganddi. Cwynodd Ms C hefyd am y gofal ac am y modd y cafodd cyflwr H ei reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“yr Ail Fwrdd Iechyd”) y trosglwyddwyd y gwaith o reoli CAMHS iddo ar 1 Ebrill 2019. Dywedodd nad oedd yr Ail Fwrdd Iechyd yn cydnabod y gallai BPD effeithio ar blant ac nad oedd yn helpu plant mewn trallod difrifol. Cwynodd Ms C hefyd am y diffyg cymorth a gafodd.

Canfu’r Ombwdsmon nad yw diagnosis o BPD yn cael ei wneud yn aml mewn unigolion o dan 18 oed. Ni chanfu oedi diangen cyn gwneud diagnosis o BPD yn achos H, a chanfu fod gofal a rheolaeth y Bwrdd Iechyd Cyntaf yn cyrraedd safon briodol. Fodd bynnag, canfu fethiannau o ran cynllunio gofal a oedd wedi cael effaith andwyol ar Ms C a’i merch, ac i’r graddau hynny cadarnhaodd y gŵyn. Canfu er bod aelodau staff CAMHS wedi gwneud ymdrechion sylweddol i helpu Ms C, nid oedd y Bwrdd Iechyd Cyntaf wedi penodi Cydlynydd Gofal fel pwynt cyswllt a fyddai wedi gallu rhoi trosolwg iddi o ofal H. Canfu hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd Cyntaf wedi hysbysu’r Ail Fwrdd Iechyd o’r cymorth yr oedd Ms C wedi bod yn ei gael gan ymarferydd nad oedd yn symud i’r Ail Fwrdd Iechyd. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn am y cymorth a ddarparwyd i Ms C, a dyfarnodd hefyd y dylai’r Bwrdd Iechyd Cyntaf fod wedi ymateb i’r llythyr a anfonwyd ganddi.

Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Ms C am y ffordd roedd yr Ail Fwrdd Iechyd wedi gofalu am H ac wedi rheoli ei hachos ar ôl Ebrill 2019. Canfu fod CAMHS, ar ôl Ebrill 2019, wedi cydnabod BPD yn achos H a’i fod wedi darparu triniaeth briodol. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn am y cymorth a roddwyd i Ms C gan yr Ail Fwrdd Iechyd.

Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd Cyntaf yn ymddiheuro i Ms C. Argymhellodd hefyd fod CAMHS y Bwrdd Iechyd Cyntaf yn adolygu ei brosesau cynllunio gofal i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 a’i God Ymarfer. Cynigiodd y Bwrdd Iechyd Cyntaf dalu £250 i Ms C gydnabod ei fethiannau o ran delio â’r cwynion ac am y trallod ychwanegol a achoswyd.