Cwynodd Ms X nad oedd Cartrefi Cymunedol Bron Afon (“y Gymdeithas Dai”) wedi gwneud gwaith trwsio yn ei chartref. Dywedodd ei bod wedi bod yn cael problemau ers nifer o flynyddoedd.
Nododd yr Ombwdsmon bryderon Ms X a gofynnodd i’r Gymdeithas Dai gymryd camau i ddatrys y gŵyn. Cytunodd y Gymdeithas Dai i wneud y canlynol:
· Ymweld â’i chartref ym mis Mehefin 2021 i ganfod pa waith trwsio sydd angen ei wneud.
· Gwneud gwaith trwsio i’r estyll ffasgia a’r cafnau a’r pibelli glaw gan gynnwys unrhyw waith trwsio sydd ei angen i wneud yn siŵr nad oes dim glaw yn dod i mewn drwy’r to.
· Rhoi blaenoriaeth i eiddo Ms X yn ei raglen adnewyddu toeau ar gyfer eiddo yn yr ardal, a fydd yn cychwyn fis Ebrill 2022.
· Cynnig iawndal ariannol o £125 i gydnabod ei hamser a’r drafferth o fynd ati i gwyno.
· Anfon llythyr o ymddiheuriad ati am y ffordd roedd wedi delio â’r achos.