Cwynodd Ms X am y modd yr oedd Meddygfa Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi delio â’i chŵyn. Yn benodol, cwynodd Ms X fod ymateb Meddygfa’r Meddyg Teulu i’r gŵyn wedi cynnwys sylwadau difrïol am Ms X.
Cytunodd Meddygfa’r Meddyg Teulu i ymddiheuro’n llawn i Ms X am yr oedi wrth ddelio â’r gŵyn ac am y gwallau a’r sylwadau. Cytunodd Meddygfa’r Meddyg Teulu i gynnig cyfle i Ms X i fynychu cyfarfod cwynion i drafod unrhyw bryderon oedd ganddi o hyd ynglŷn â’r gŵyn. Yn olaf, cytunodd Meddygfa’r Meddyg Teulu i ddiweddaru eu polisi cwyno i gynnwys swyddog cyfrifol i ddelio â chwynion, ac i enwi yn ei bolisi cwyno, aelod arall o staff (ar lefel uwch briodol) i ddelio ag unrhyw gwynion a gyfeirir at y swyddog cyfrifol.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hwn yn setliad priodol.