Dyddiad yr Adroddiad

06/16/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202101387

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe am yr adeg pan aeth gyda’i ferch i Ysbyty Treforys ar 21 Ebrill 2018.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn rhoi sylw llawn i’r materion a godwyd gan Mr X a’i fod yn ymdrin yn bennaf â phresenoldeb Mr X mewn ysbyty arall ar 15 Ebrill 2018.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd, a chytunodd i wneud y canlynol
o fewn 10 niwrnod gwaith

Rhoi cadarnhad ysgrifenedig i Mr X y byddai ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal i’w bresenoldeb yn Ysbyty Treforys ar 21 Ebrill 2018, gyda phob agwedd ar ei gŵyn yn cael eu hystyried, ac y byddai ymateb yn cael ei baratoi yn unol â Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011.

Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon y byddai hyn yn datrys y materion a godwyd yn y gŵyn