Cwynodd Mr X am y gofal a’r driniaeth a gafodd yn ystod 2 arhosiad yn yr ysbyty, mewn perthynas â materion amrywiol gan gynnwys gofal ar ôl llawdriniaeth, diagnosis clinigol mewn perthynas ag anaf i’w gefn, bwyd, hylendid personol, ffisiotherapi, lleddfu poen, gofal seiciatrig a threfniadau rhyddhau.
Canfu’r Ombwdsmon fod rhai o’r materion wedi cael eu hateb, bod rhai wedi cael eu codi, ond heb gael sylw, ac eraill heb gael eu cyflwyno i’r Bwrdd Iechyd eto. Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd gytuno ar restr o benawdau cwynion heb eu datrys gyda Mr X o fewn 30 diwrnod gwaith a darparu ymateb ysgrifenedig llawn iddynt o fewn 40 diwrnod gwaith arall. Cytunodd y Bwrdd Iechyd a chredai’r Ombwdsmon fod hyn yn ateb priodol.