Cwynodd Mrs Y wrth yr Ombwdsmon am y gofal a gafodd ei diweddar fam, Mrs Z, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”), Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, y Gwasanaeth Nyrsys Ardal a’r Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau. Codwyd llawer o bryderon ynglŷn â thriniaeth Mrs Z, ond craidd y gŵyn oedd y diffyg gofal lliniarol a llwybr diwedd oes. Y Bwrdd Iechyd oedd wedi arwain yr ymchwiliad a darparodd un ymateb unigol a chydlynol ym mis Ebrill 2021.
Fodd bynnag, wrth wneud ei chŵyn i’r Ombwdsmon, nododd Mrs Y ei bod yn dal yn anfodlon â rhannau o ymateb y Bwrdd Iechyd. Yn dilyn trafodaethau gyda’r Ombwdsmon, cytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai’n darparu ymateb pellach i Mrs Y erbyn 29 Hydref 2021.