Ym mis Tachwedd 2018 aeth Mrs X i Ysbyty Llandochau, nodwyd ei bod wedi datblygu cwymp ar ei throed chwith dros y 2 i 3 mis diwethaf. Roedd y cwymp yn y droed yn cyfateb i L4 (y pedwerydd meingefn) ac roedd sgan MRI blaenorol yn dangos disg wedi llithro yn L5/S1 (ar waelod y golofn fertigol). Ym mis Rhagfyr cafodd Mrs X sgan MRI brys a oedd yn dangos newidiadau dirywiol cynyddol i L5/S1. Ar 18 Mehefin 2019, aeth Mrs X i’r Ysbyty, a chafodd ei chyfeirio am Electromyogram (“EMG”). Ar 17 Awst, adroddodd EMG am radicwlopathi acíwt a chronig difrifol iawn. Cwynodd Mrs X am ei thriniaeth rhwng mis Medi 2018 a mis Awst 2019.
Canfu’r Ombwdsmon y gallai datgywasgiad brys fod wedi bod o fudd i Mrs X, ac y dylai fod wedi cael ei hasesu cyn mis Tachwedd 2018. Canfu hefyd fod Mrs X wedi aros yn rhy hir (7 mis) am ymgynghoriad i drafod ei chanlyniad MRI brys. Nid oedd y Tîm Amlddisgyblaethol ar 21 Mehefin wedi egluro ei niwroleg pan oedd yr MRI yn dangos cywasgiad ar y nerf L5 ac roedd yr EMG, y sgan MRI a symptomau Mrs X yn dangos yn amlwg iawn bod y droed yn disgyn o ganlyniad i’r nerf L5. Canfu’r Ombwdsmon, hyd yn oed drwy ystyried y pandemig, 23 mis yn ddiweddarach, ei bod yn afresymol nad oedd Mrs X wedi cael canlyniad yr EMG. Canfu’r Ombwdsmon hefyd y dylai Mrs X fod wedi cael asesiadau ac ymchwiliadau mwy brys.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon o fewn 1 mis ac ymddiheuro i Mrs X am y methiannau a nodwyd, gwneud taliad iawndal o £2,000, a rhoi gwybod i Mrs X am ganlyniad EMG Awst 2019. Cytunodd y Bwrdd Iechyd o fewn 6 mis i ystyried e-atgyfeiriadau, i sicrhau bod cleifion sy’n cael sganiau brys yn cael eu gweld o fewn 1 mis, i sicrhau bod cleifion yn cael canlyniadau’r EMG yn amserol, ac i adolygu proses y Tîm Amlddisgyblaethol Meingefn i ystyried a ddylid mabwysiadu dull gweithredu gwahanol i sicrhau bod datgywasgu yn cael ei adnabod.