Cwynodd Mr D nad oedd gwasanaethau iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) wedi trin ei gyflwr o Anhwylder Personoliaeth Emosiynol Ansefydlog (EUPD) (gyda gorbryder ac iselder cysylltiedig) yn ddigonol nac yn briodol. Cwynodd Mr D fod clinigwyr iechyd meddwl:
1. Wedi methu â hwyluso a/neu ei gyfeirio at therapïau seicolegol priodol yn unol â chanllawiau clinigol sefydledig.
2. Wedi gwrthod rhoi cymorth a chefnogaeth briodol iddo ar gyfer ei ymddygiad caethiwus/byrbwyll (fel gamblo).
3. Wedi methu ag adolygu ac asesu ei anghenion meddyginiaeth yn rheolaidd a methu â rhoi Cydlynydd Gofal iddo.
4. Wedi methu cyflawni ymrwymiadau a roddwyd iddo mewn perthynas â gwasanaethau gofal mewn cyfarfod ym mis Tachwedd 2019.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gwynion1 a 3. O ran cwyn 1, canfu, yn groes i ganllawiau NICE, fod gofal Mr D yn cael ei reoli gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol (PCMHS) ac ni chafodd ei gyfeirio at ofal eilaidd (y tîm iechyd meddwl cymunedol) fel yr oedd ei angen ar gyfer ei anhwylder personoliaeth ffiniol. O ganlyniad, ni chafodd therapi seicolegol priodol a allai fod wedi mynd i’r afael â’i ymddygiad byrbwyll. O ran cwyn 3, canfu’r Ombwdsmon fod meddyginiaeth Mr D yn cael ei rheoli’n briodol ond nad oedd wedi cael Cydlynydd Gofal yr Oedd, er bod ei gyflwr yn gwarantu hynny. Roedd hyn yn rhoi Mr D dan anfantais gan na allai’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol gael gafael ar y seicotherapi priodol ar ei ran, yr oedd ei gyflwr yn gofyn amdano.
Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn 2 oherwydd, yn absenoldeb fframwaith triniaeth ar gyfer dibyniaeth ar gamblo ledled y GIG, ystyriwyd bod sesiynau Mr D â Gamblers Anonymous (o dan delerau Canllawiau NICE) yn ‘wasanaeth priodol’.
Ni chanfu’r Ombwdsmon unrhyw dystiolaeth nad oedd ymrwymiadau a roddwyd i Mr D mewn perthynas â gwasanaethau gofal mewn cyfarfod ym mis Tachwedd 2019 wedi’u cyflawni.
Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro i Mr D am y methiannau a nodwyd ac yn talu £750 iddo i gydnabod yr amser a’r drafferth iddo wrth gwyno am y materion hyn. Argymhellodd hefyd y dylai’r Bwrdd Iechyd wneud y canlynol:
Tystiolaethu bod yr adroddiad wedi cael ei rannu a’i drafod gyda’r clinigwyr y cyfeirir atynt ynddo a’u bod yn adolygu ac yn myfyrio ar Ganllawiau NICE.
Adolygu’r triniaethau a’r llwybrau triniaeth sydd ar gael ar gyfer EUPD a rhoi crynodeb o’i ganfyddiadau i’r Ombwdsmon.
Atgoffa clinigwyr o’u dyletswydd i gofnodi penderfyniadau clinigol a rheoli gofal yn fanwl.
Cynnig asesiad newydd o’i gyflwr i Mr D ac, yn dibynnu ar y canlyniad, yn adolygu ei gynllun gofal.
Derbyniodd y Bwrdd Iechyd ganfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad.