Cwynodd Mr X nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) wedi darparu gwasanaethau yr oedd wedi cytuno arnynt yn flaenorol. Roedd y gwasanaethau hyn yn cynnwys gwaith stori bywyd ac asesiadau seicolegol, CPN a therapi galwedigaethol. Hefyd, dywedodd nad oedd yr asesiadau cywir wedi cael eu gwneud gan Ofal Iechyd Parhaus y GIG. Cwynodd Mr X nad oedd yn cael y driniaeth yr oedd arno ei hangen oherwydd nad oedd yr asesiadau hyn wedi cael eu cynnal.
Cwynodd Mr X hefyd ei fod wedi cael gwybod bod strategaeth gyfathrebu ar waith pan oedd wedi gofyn am wybodaeth gan y Bwrdd Iechyd. Dywedodd Mr X nad oedd y Bwrdd Iechyd yn fodlon ystyried na delio â’i gŵyn.
Ar ôl gwneud ymholiadau, cadarnhaodd y Bwrdd Iechyd mai yn 2018 y cafwyd y gŵyn ffurfiol ddiwethaf yr ymatebodd iddi ym mis Gorffennaf 2019.
Er mwyn setlo’r gŵyn, cytunodd y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ymateb PTR ffurfiol i’r gŵyn a chyflwynodd Mr X i’r Ombwdsmon o fewn 12 wythnos.