Cwynodd Mrs A am y broses a ddilynwyd gan Gyngor Caerffili wrth ystyried cais ei theulu am addasiadau i’w heiddo. Cwynodd Mrs A fod y teulu wedi cael ei drin yn annheg.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi rhoi tystiolaeth o asesiad llawn o’r addasiadau a’r costau. Bu oedi diangen wrth fwrw ymlaen â’r achos ac ni roddodd y Cyngor benderfyniad rhesymedig ysgrifenedig i’r teulu er mwyn iddo dderbyn neu herio. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd i’r teulu am eu cartref a’u dyfodol, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd eu hanghenion wedi newid. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gynnal asesiad llawn o anghenion y teulu, adolygu’r dichonoldeb ar gyfer addasiadau a nodi opsiynau eraill, rhoi penderfyniad rhesymedig ysgrifenedig i’r teulu, ymddiheuro am y diffyg cyfathrebu clir a thalu iawndal o £500 i’r teulu.