Cwynodd Mr X fod y Cyngor wedi methu â chynnal ymchwiliad trylwyr i’w gŵyn. Dywedodd na chafodd y dystiolaeth a roddodd ei hystyried ac na chafodd yr adroddiad ei adolygu cyn cyhoeddi.
Canfu’r Ombwdsmon fod yr adroddiad yn rhoi sylw i’r gŵyn ac yn dod i gasgliadau y gwelwyd tystiolaeth ohonynt. Fodd bynnag, roedd rhai diffygion a gwallau teipograffyddol a oedd yn awgrymu nad oedd wedi cael ei brawf-ddarllen yn drwyadl cyn ei gyhoeddi.
Cytunodd y Cyngor i gyhoeddi adroddiad cyflawn o fewn 20 diwrnod gwaith ac i sicrhau y byddai’r holl adroddiadau ar ymchwiliadau yn y dyfodol yn cael eu prawf ddarllen cyn eu cyhoeddi.