Cwynodd Mrs A fod Cyngor Sir Ddinbych (“y Cyngor”) wedi gwrthod derbyn ei chwyn oherwydd dywedodd ei fod eisoes wedi ymateb i’r materion a godwyd, a bod hynny yn ymwneud â materion y deliwyd â nhw eisoes drwy’r drefn gwyno.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi dyfarnu’n anghywir ei fod eisoes wedi ymateb i’r gŵyn. Nid oedd unrhyw dystiolaeth bod Mrs A wedi cyflwyno ei chwyn o’r blaen, na bod y Cyngor wedi ymateb i’r materion a godwyd. Dywedodd fod hyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Mrs A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i dderbyn cwyn Mrs A a darparu ymateb yn unol â’i drefn gwyno.