Ar 11 Mehefin 2019 yn Ysbyty Nevill Hall, rhoddodd Ms X enedigaeth i fachgen bach. Ar ôl hynny, roedd gan Ms X rwygiad oedd angen ei drwsio gyda 4 pwyth; gwnaed penderfyniad clinigol i beidio â rhoi anaesthetig lleol oherwydd byddai’r nodwydd wedi achosi’r un lefel o boen. Dywedodd Ms X ei bod mewn poen ofnadwy yn ystod y weithdrefn.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad na fu unrhyw drafodaeth ddigonol gyda Ms X am opsiynau lleddfu poen, a methiant i weinyddu anaesthetig lleol. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.
Cytunodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon: o fewn 1 mis, i ymddiheuro i Ms X am y methiannau a chyflwyno taliad unioni o £1,000, ac o fewn 3 mis i amlygu’r digwyddiad hwn ymhlith yr uned famolaeth fel gwers i’w dysgu.