Dyddiad yr Adroddiad

09/29/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202002637

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms A am briodolrwydd ei gofal, a’r rheolaeth a thriniaeth ei symptomau ynghylch Syndrom Tachycardia Orthostatig Ystumiol (“PoTS”) gan yr Adran Gardioleg.

Ni lwyddodd yr archwiliad i bennu’r rheswm dros yr oedi yn argaeledd canlyniadau ei phrofion (26 mis), pa arbenigedd neu glinigwr oedd â mynediad i’w chanlyniadau er mwyn eu dehongli, a phwy wnaeth gyflwyno diagnosis ffurfiol, neu pryd ddigwyddodd hyn. Daeth yr archwiliad i’r casgliad fod y feddyginiaeth a awgrymwyd ac a roddwyd ar bresgripsiwn gan y Cardiolegydd Ymgynghorol yn briodol yn glinigol, fodd bynnag, nid oedd yr ohebiaeth a anfonwyd i’r meddyg teulu. Daeth yr archwiliad i’r casgliad na wnaeth y Cardiolegydd Ymgynghorol roi camau priodol ar waith un ai i adeiladu ei wybodaeth ei hun o PoTS neu i nodi rhywun gyda lefel uwch o arbenigedd. Oherwydd hyn, cadarnhawyd agweddau ar gŵyn Ms A ynghylch cyfathrebu am y diagnosis, rheolaeth o’i chyflwr a diffyg atgyfeirio at farn arbenigol. Daeth yr archwiliad i’r casgliad ei fod yn briodol yn glinigol i Ms A gael ei rhyddhau o’r Adran Gardioleg yn ystod haf 2019.

Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Bwrdd Iechyd”) i ymddiheuro i Ms A a sicrhau bod y Cardiolegydd Ymgynghorol yn myfyrio ac yn trafod cynnwys ei ohebiaeth gyda’r meddyg teulu yn ystod ei arfarniad nesaf. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymchwilio adnoddau PoTS, asesu a oedd o’r farn y byddai Ms A yn elwa ar atgyfeiriad at glinigwr gydag arbenigedd mewn PoTS a chynnal archwiliad i bennu a dderbyniwyd canlyniadau’r prawf ar unrhyw bwynt cyn mis Hydref 2020.