Cwynodd Mr A nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu adolygiadau cardioleg priodol o’r problemau ar ei galon ers mis Medi 2019, heb archwilio ei boen abdomenol mewn modd amserol, a heb ddosbarthu ei atgyfeiriad fel un brys.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y gofal cardioleg a roddwyd i Mr A o safon briodol. Trafodwyd ystod o opsiynau triniaeth, a gwrthododd Mr A rai o’r rhain, a phan nad oedd ymgynghoriadau wyneb yn wyneb yn bosibl oherwydd COVID-19, cynigiwyd adolygiadau dros y ffôn fel opsiwn amgen. Doedd dim tystiolaeth ddarbwyllol i awgrymu fod dull ac amseroldeb adolygiadau Mr A wedi arwain at unrhyw anghyfiawnder sylweddol iddo. Felly, ni chadarnhawyd y gŵyn.
Daeth yr archwiliad i’r casgliad bod atgyfeiriad meddyg teulu Mr A ynghylch ei boen abdomenol wedi cael ei anfon at fwrdd iechyd gwahanol. Felly, ni chadarnhawyd yr elfen hon ar y gŵyn yn erbyn y Bwrdd Iechyd.