Cwynodd Mrs Y na wnaeth Ymddiriedolaeth Prifysgol y GIG Felindre roi gofal a thriniaeth resymol i’w thad, Mr X, ar ôl Mawrth 2020. Cwynodd Mrs Y hefyd na wnaeth yr Ymddiriedolaeth ymdrin â’i chŵyn yn briodol.
Nododd yr Ombwdsmon bod pandemig Covid-19 wedi dechrau cael effaith sylweddol yn y DU ym mis Mawrth 2020. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod Mr X eisoes wedi derbyn dau gyfuniad o gemotherapi erbyn 10 Chwefror, ac ni lwyddodd y rheiny, felly hyd yn oed cyn Mawrth 2020 doedd dim llawer o opsiynau ar gael i Mr X. Roedd yr holl dreialon clinigol wedi cau i gleifion newydd o fis Mawrth, felly’r unig opsiwn triniaeth posibl oedd ar gael i Mr X o’r adeg honno oedd cemotherapi. Gan nad oedd Mr X wedi ymateb yn bositif i 2 rownd o gemotherapi, cafodd ei flaenoriaethu ar y lefel flaenoriaeth isaf i dderbyn triniaeth, ac roedd y tebygolrwydd ohono’n ymateb yn dda i 3ydd rownd yn brin. Derbyniodd yr Ombwdsmon gyngor y byddai’n rhesymol peidio â chynnig 3ydd ymgais o gemotherapi hyd yn oed heb y pandemig, a hynny yn sgîl y wybodaeth am Covid-19 ar gleifion cemotherapi yn dod o Tsieina a’r Eidal, roedd hi’n rhesymol peidio â chynnig trydydd ymgais ar gemotherapi i Mr X yn yr amgylchiadau. Ni chadarnhawyd y gŵyn.
Fodd bynnag, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y cyfathrebu gyda Mr X a’i deulu yn brin, ac ar ôl mis Mawrth 2020, ni chofnodwyd y rhesymau dros beidio â chynnig cemotherapi pellach i Mr X.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mrs Y nad oedd yr Ymddiriedolaeth wedi ymdrin â’i chŵyn briodol, gan fod yr Ymddiriedolaeth wedi annog cyfarfodydd yn amhriodol, ceisio cydsyniad ychwanegol pan doedd dim angen, anfon e-bost i gyfeiriad best anghywir, na rhoi gwybod i Mrs Y am yr achos o dorri rheolau data mewn ffordd amserol. Digwyddodd yr holl gamgymeriadau hyn ar adeg pan roedd y teulu mewn profedigaeth, wnaeth achosi straen ac anghyfiawnder iddynt.
Cytunodd yr Ymddiriedolaeth i ymddiheuro i Mrs Y am y methiannau a nodwyd, a chadarnhau pa fesurau diogelwch yr oedd wedi’u rhoi ar waith i sicrhau na anfonir gohebiaeth at achwynwyr i’r cyfeiriadau ebost anghywir.