Cwynodd Mrs N am agweddau ar ei gofal yn ystod ei beichiogrwydd a’r broses o roi genedigaeth, yn benodol:
•Methiant i roi tabledi haearn ar bresgripsiwn yn gynharach yn ei beichiogrwydd.
•Monitro hi a’i babi yn ystod dyddiau olaf ei beichiogrwydd.
•Llawdriniaeth a gynhaliwyd yn dilyn ei thoriad Cesaraidd, wnaeth arwain ati’n cael ei throsglwyddo i ysbyty arall a gwaredu aren.
Yn anffodus iawn, bu farw babi Mrs N, dioddefodd Mrs N waedu trwm o’r rhydweli’n cyflenwi gwaed i’r arennau, ac roedd yn rhaid iddi dynnu aren.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod yr ategyn haearn yr oedd Mrs N yn ei gymryd pan roedd 26 wythnos yn feichiog, ochr yn ochr â’r cyngor dietegol a gafodd, yn briodol er mwyn mynd i’r afael â’i lefel haemoglobin isel. Roedd camau’r bydwraig a’r meddyg cymunedol yn yr wythnos hyd at enedigaeth babi Mrs N yn briodol, ac ni fyddai unrhyw fonitro pellach wedi diwygio’r canlyniad. Roedd symud Mrs N i’r ail ysbyty a’i llawdriniaeth yno yn briodol ac yn amser, a thynnu aren Mrs N oedd yr unig opsiwn i achub ei bywyd. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.