Cwynodd Mr E am benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ym mis Chwefror 2020, i beidio â rhoi rheoliadur y galon parhaol iddo. Dywedodd Mr E ei fod wedi cael ffit ychydig wedi hynny, gyda rheoliadur y galon yn dilyn trafferthion gyda’i galon tra roedd dramor.
Ar ôl cofnod manwl o symptomau Mr E gan ei feddyg teulu, ac asesiad gan gardiolegydd ymgynghorol oedd yn cynnwys prawf monitor Holter (electrocardiogram symudol sy’n cofnodi gweithgarwch trydanol y galon yn barhaus dros 24 awr, nid oedd symptomau Mr E, oedd yn dangos bradycardia (rhythm araf y galon), yn ddigon difrifol ac felly doedd dim angen iddo gael rheoliadur y galon.
Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.