Dyddiad yr Adroddiad

15/09/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Datblygiadau heb ei awdurdodi - galw am gamau gorfodi a.y.y.b

Cyfeirnod Achos

202100450

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am sawl mater ynghlwm wrth Glwb sydd gyferbyn â’i heiddo. Roedd ei phryderon yn bennaf ynghylch methiant y Cyngor i gymryd unrhyw gamau gweithredu gorfodi yn erbyn y Clwb.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod Cyngor Abertawe (“y Cyngor”) wedi ystyried cŵyn Mrs A yn briodol, ac eglurodd bod y Clwb wedi bod yno ers sawl blwyddyn, cyn i Mrs A brynu ei heiddo, a dyna pam, o ran cynllunio, doedd dim modd iddo weithredu yn erbyn y Clwb am y materion cynllunio hanesyddol a nodwyd. Ystyriodd yr Ombwdsmon fod ymateb y Cyngor yn fanwl ac yn rhesymol yn hyn o beth.

Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon o’r farn y gallai’r Cyngor fod wedi cymryd rhai camau ynghylch cwynion Mrs A am godi strwythur yn ddiweddar heb ganiatâd cynllunio, a chwynion am niwsans sŵn nad oedd y Cyngor wedi’u datrys yn ffurfiol gan fod y cwynion hyn wedi dod i law yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol yn deillio o’r pandemig coronafeirws.
Yn dilyn cyswllt gyda’r Ombwdsmon, cytunodd y Cyngor i ymweld â’r Clwb i ystyried cŵyn Mrs A am y lloches a godwyd yn ddiweddar a rhoi gwybod iddi am statws yr adeilad o ran cynllunio, a hefyd i asesu ei phryderon sŵn.