Cwynodd Mr B am y ffordd yr oedd Cyngor Caerdydd – Rhentu Doeth Cymru (“RSW”) wedi delio â’i gŵyn fod ei landlord wedi mynd yn groes i’w amodau trwydded drwy beidio ag amddiffyn bond/blaendal Mr B.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad pan gwynodd Mr B i’w swyddfa, roedd archwiliad RSW o landlord Mr B yn dal i fynd. Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod RSW wedi dilyn ei bolisïau a’i weithdrefnau. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad hefyd fod ymateb RSW i gŵyn Mr B yn rhesymol ac yn trafod pob mater yr oedd Mr B wedi cwyno amdanynt, ond roedd yr Ombwdsmon yn bryderus am gynnydd presennol ei archwiliad.
Yn dilyn cyswllt â’r Ombwdsmon, daethpwyd i’r casgliad fod archwiliad RSW i landlord Mr B wedi symud ymlaen o’r cam archwilio i’r cam datrys. Cytunodd RSW, o fewn 20 diwrnod gwaith, i ddarparu ymateb ysgrifenedig i Mr B yn nodi ei sefyllfa bresennol ar gŵyn a chanlyniad Mr B.