Cwynodd Mr X nad oedd Cyngor Sir Ceredigion (“y Cyngor”), yn gweithredu fel awdurdod cynllunio, wedi cymryd camau gorfodi ynghylch datblygiad anawdurdodedig ar dir cyfagos, a adroddodd yn 2019. Roedd y Cyngor wedyn (yn 2020) wedi cyflwyno caniatâd cynllunio ôl-weithredol, y cadarnhawyd wedyn oedd yn gamgymeriad ar ei ran (gan ei fod wedi bwriadu gwrthod y cais). Ers hynny, dywedodd Mr X bod y tirfeddiannwr wedi cael amser ychwanegol gan y Cyngor i gaffael tir pellach i fodloni termau’r caniatâd a roddwyd, ond heb wneud hynny o fewn yr amser a ganiateir. Cwynodd Mr X ymhellach nad oedd y Cyngor wedi rhoi gwybod y diweddaraf iddo, nac egluro iddo pam doedd dim camau gweithredu wedi’u rhoi ar waith yn erbyn y datblygwr am fethu â chaffael y tir, neu beth yr oedd yn bwriadu ei wneud.
Wrth ystyried y gŵyn, bu i’r Ombwdsmon gydnabod y camgymeriad, yr oedd y Cyngor wedi’i dderbyn. Roedd yn bryderus am yr oedi wedi hynny, yn ogystal â’r diffyg gwybodaeth ddiweddar a roddwyd i Mr X. Ystyriodd fod hyn yn gamweinyddiaeth ac yn anghyfiawnder difrifol i Mr X, o ystyried ei fod wedi codi pryderon ers 2019. Gan gydnabod ei gyfyngiadau awdurdodaethol o ran materion cynllunio (ynghlwm wrth y ffaith na all gwestiynu barn broffesiynol, na rhoi cyfarwyddyd i’r Cyngor i gymryd camau gorfodi), ystyriodd yr Ombwdsmon bod modd datrys y gŵyn ar sail y camau gweithredu canlynol, fel opsiwn amgen i’r archwiliad. Cytunodd y Cyngor, o fewn mis i:
(a) Ymddiheuro yn ysgrifenedig i Mr X (drwy Uwch Swyddog) am y camweinyddu a ddigwyddodd.
(b) Rhoi eglurhad manwl i Mr X (ar wahân neu ar y cyd â’r uchod) am beth ddigwyddodd ers penderfyniad y Cyngor i alluogi amser i gaffael tir, a sut mae’r mater yn mynd i gael ei bennu a pha gasgliad fydd yn cael ei weithredu.
(c) Cynnig taliad unioni i Mr X o £1,500 am yr anghyfiawnder a achoswyd iddo gan y camweinyddu, yn ogystal â’i amser a’i drafferth o ran mynd ar ôl ei gwynion gyda’r Cyngor a’r Ombwdsmon.