Cwynodd Mr X am y diffyg gweithredu gan Dîm Gorfodaeth yr Adran Gynllunio yng nghyswllt ei gwynion iddynt. Roedd hefyd yn poeni na chafodd bethau eu datrys er bod ei gŵyn ffurfiol i’r Cyngor am yr oedi wedi cael ei dderbyn.
Derbyniodd y Cyngor fod oedi sylweddol wedi bod yn delio â chŵyn Mr X i dîm gorfodaeth yr adran gynllunio. Roedd camau bellach wedi eu cymryd ynghylch sylwedd cwyn Mr X ac i roi sylw i broblemau oedi yn nhîm gorfodaeth yr adran gynllunio’n gyffredinol.
Cytunodd y Cyngor hefyd i ysgrifennu’n ffurfiol at Mr X o fewn 20 diwrnod gwaith er mwyn:
• Egluro’r rhesymau am y diffyg gweithredu gan y Cyngor rhwng Medi 2019 hyd at heddiw;
• Egluro manylion y gwelliannau y dywedodd y Cyngor yr oedd wedi eu gwneud yn nhîm gorfodaeth yr adran gynllunio, a’r pwyntiau a ddysgwyd o gŵyn Mr X;
• Egluro’r rheswm am ei benderfyniad gorfodaeth (hynny yw, cyflwyno rhybudd gorfodaeth yn lle rhybudd atal);
• Egluro sut y dylai Mr X adrodd unrhyw broblemau sŵn yn y dyfodol (gan gynnwys cadarnhau ai proses orfodaeth yr adran gynllunio neu broses niwsans statudol iechyd yr amgylchedd sy’n gyfrifol);
• Disgrifio trefniadau clir i sicrhau bod cyswllt rhagweithiol gyda Mr X; dylai fod yn glir ar ddiwedd pob cyswllt (e-bost neu ffôn) pryd y bydd Mr X yn clywed nesaf gan y Cyngor;
• Ymddiheuro am yr oedi’n symud ymlaen gyda’r achos a’r ffaith y dylai’r rhybudd gorfodaeth fod wedi cael ei gyflwyno’n gynt;
• Cynnig talu £250 i Mr X am ei amser a’i drafferth ac i adlewyrchu’r gwaith ychwanegol a achoswyd i Mr X drwy orfod mynd ar ôl ei gŵyn.