Cwynodd Mrs X am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei gŵr pan oedd yn aros am asesiad o drafferthion anadlu. Dywedodd Mrs X nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’w chŵyn wedi rhoi sylw digonol i’w phryderon. Nododd yr Ombwdsmon fod ymateb y Bwrdd Iechyd wedi rhoi sylw i nifer o’r pwyntiau yr oedd Mrs X wedi tynnu ei sylw atynt. Roedd yn fodlon bod esboniad y Bwrdd Iechyd yn rhesymol. Fodd bynnag, nododd nad oedd Mrs X wedi lleisio pryderon blaenorol ynghylch a oedd mannau pwyso ei gŵr wedi cael eu gwirio yn ystod ei arhosiad yn yr ysbyty. Casglodd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cael cyfle rhesymol i ymchwilio ac ymateb i’r agwedd yma ar y gŵyn. Penderfynodd yr Ombwdsmon ofyn i’r Bwrdd Iechyd a gytunodd i roi ymateb ysgrifenedig i Mrs X o fewn 30 diwrnod gwaith i benderfyniad yr Ombwdsmon.