Dyddiad yr Adroddiad

10/06/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Cyfeirnod Achos

202103119

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B ar ran Mr A fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â diweddaru’r wybodaeth am Mr A a’i fod o ganlyniad wedi colli apwyntiadau pwysig. Roedd cwyn wedi’i wneud am dorri rheolau data’n ymwneud â gwybodaeth bersonol Mr A ac roedd y Bwrdd Iechyd yn ymchwilio iddo, ond nid oedd unrhyw ddiweddariad wedi’i roi. Cwynodd Mr B hefyd fod Mr A wedi methu â derbyn gofal a chymorth iechyd meddwl priodol gan y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys ar ôl iddo geisio lladd ei hun. Ni allai’r Ombwdsmon ymchwilio i’r mater o dorri rheolau data oherwydd roedd y tu allan i’w awdurdodaeth, ond nododd yn ei ymateb i’r gŵyn fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ystyried nac ymateb i’r pryder clinigol a leisiwyd gan Mr B. O ystyried hyn, teimlai’r Ombwdsmon ei bod yn briodol ystyried ateb arall yn lle ymchwiliad oherwydd nid oedd y mater clinigol wedi cael ei ystyried drwy’r broses Gweithio i Wella (PTR). Teimlai’r Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd gael cyfle i ymchwilio ac ymateb i hyn ond y dylai wneud hynny’n amserol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud y canlynol i setlo’r gŵyn:
• Ymchwilio i’r gŵyn am ddiffyg gofal a thriniaeth glinigol i Mr A a rhoi ymateb i’r gŵyn (yn unol â’r drefn PTR) o fewn chwech wythnos.
• O fewn un mis, trefnu cyfarfod wyneb yn wyneb (rhithiol) (gyda Mr A a / neu Mr B fel ei gynrychiolydd) i drafod y pryderon ac i roi diweddariad ar yr ymchwiliad i dorri rheolau data.