Dyddiad yr Adroddiad

15/10/2021

Achos yn Erbyn

Tai Cymoedd i'r Arfordir

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202103137

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A, ar ran ei mam, Mrs B, fod Cymdeithas Dai Cymoedd i’r Arfordir (“y Gymdeithas Dai”) wedi methu â chymryd camau priodol i ddelio â tho oedd yn gollwng yng nghartref Mrs B. Roedd Ms A yn anhapus â’r gwaith trwsio dros dro i’r to a dywedodd fod angen to hollol newydd. Roedd Ms A yn anhapus ag ymateb y Gymdeithas Dai i’w chwynion.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Gymdeithas Dai oherwydd roedd yn bryderus, er bod gwaith trwsio dros dro wedi’i wneud i’r to a’r addurno ar y tu mewn, roedd y gwaith hwn wedi methu â datrys y broblem yn iawn ac roedd y to’n dal i ollwng gan achosi mwy o ddifrod. Nid oedd y camau a gymrodd y Gymdeithas Dai i ateb y pryderon wedi cael eu hegluro wrth Ms A na Mrs B ac nid oedd unrhyw ddiweddariad wedi’i roi i Mrs B ar statws y gwaith trwsio.

Penderfynodd yr Ombwdsmon ofyn i’r Gymdeithas Dai a gytunodd i osod to a nwyddau dŵr glaw newydd (gan gynnwys gwaith soffit, ffasgia a gwteri) yn yr eiddo. Cytunodd y byddai’r eiddo’n cael ei drin fel blaenoriaeth i gydnabod y problemau parhaus yr oedd Mrs B wedi’i wynebu. Cytunodd y Gymdeithas Dai, o fewn 20 diwrnod gwaith, i anfon llythyr at Mrs B yn cadarnhau’r cytundeb i osod to a nwyddau dŵr glaw newydd ynghyd â llythyr yn nodi’r camau a gymrodd i ateb y pryderon a leisiwyd gan, ac ar ran, Mrs B.

Roedd yr Ombwdsmon yn ystyried bod hyn yn datrys y gŵyn yn briodol.