Cwynodd Mr A i’r Ombwdsmon fod ei lawdriniaeth orthopedig wedi cael ei chanslo ym mis Mawrth 2020 oherwydd y pandemig. Pan gyflwynodd ei gŵyn, nid oedd wedi derbyn dyddiad ar gyfer ei lawdriniaeth.
Derbyniodd yr Ombwdsmon fod [y pandemig] wedi aflonyddu’n ddifrifol ar wasanaethau’r Bwrdd Iechyd a bod oedi pellach i lawdriniaethau arferol yn debygol iawn. Roedd Mr A, fel llawer iawn o bobl eraill, yn gorfod wynebu’r oedi hwn. Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mr A wedi cael ei ddiweddaru ar ei le ar y rhestr aros yn ddiweddar. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Penderfynodd yr Ombwdsmon ofyn i’r Bwrdd Iechyd a gytunodd i roi diweddariad ac esboniad llawn i Mr A ar ei le ar y rhestr aros, o fewn pythefnos. Cytunodd hefyd i gadarnhau’r camau y mae’n eu cymryd i reoli ac adolygu’r rhestr aros orthopedig, i sicrhau bod Mr A yn derbyn ei lawdriniaeth ar y cyfle cyntaf posib.